Sut fyddech chi'n gwella Trafnidiaeth yn Ne Ddwyrain Cymru?

Get project news

Do you want to receive an email when news items are posted?

Latest news

Stay involved in the discussion. Keep up to date with the latest news and share it with your fellow community members.

Mae ymgynghoriad Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, ‘Dweud eich Dweud’, bellach wedi cau/ The South East Wales Transport Commission's 'Have Your Say’ consultation is now closed

Mae ymgynghoriad Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, ‘Dweud eich Dweud’, bellach wedi cau. Diolch i bawb a gymerodd o’r amser i gyfrannu. Rydyn ni wedi bod yn brysur yn adolygu’r data a fydd yn llywio ein hadroddiad dros dro, a gyhoeddir cyn yr haf, a’r Argymhellion Terfynol y byddwn ni’n eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru tua diwedd y flwyddyn. Yn y cyfamser, byddwch yn gallu gweld cynnwys y wefan, ond ni fyddwch yn gallu ychwanegu sylwadau. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn, dilynwch ni ar Twitter @SEWTCommission neu ewch i’n gwefan https://llyw.cymru/comisiwn-trafnidiaeth-de-ddwyrain-cymru

The South East Wales Transport Commission's 'Have Your Say’ consultation is now closed. Thank you to everyone who took the time to contribute. We have been busy reviewing the data which will inform our Interim Report due to be published before the summer, and our Final Recommendations which we will make to the Welsh Government around the end of the year. In the meantime, the site content will be available to view but not to add further comments. To keep up to date with the work of the Commission, follow us on Twitter @SEWTCommission or visit our website www.gov.wales/south-east-wales-transport-commission

Posted on 15th April 2020

by South East Wales Transport Commission

Y Comisiwn yn cyhoeddi argymhellion ‘llwybr cyflym’ cynnar i Weinidogion Cymru.

Heddiw (17 Rhagfyr 2019), mae Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn darparu diweddariad ar ei waith ac yn argymell nifer fach o fesurau ‘llwybr cyflym’ ar gyfer lleddfu tagfeydd ar yr M4.

Mae  diweddariad cynnydd y Comisiwn  yn cynnwys argymhellion ‘llwybr cyflym’ i Weinidogion Cymru er mwyn:

  • cyflwyno rheolaeth cyflymder cyfartalog o 50mya o amgylch cyffordd 24 i 28 ar yr M4 (gan ddisodli'r terfyn cyflymder amrywiol presennol)
  • darparu arweiniad lôn ychwanegol i gyfeiriad gorllewinol yr M4 tuag at dwneli Brynglas a defnyddio bolardiau i atal newidiadau lôn hwyr
  • gwella cefnogaeth swyddogion traffig ar yr M4 ac ymestyn patrolau i'r A48 a'r A4810 yng Nghasnewydd.
  • Y tu hwnt i hyn, mae'r Comisiwn yn ystyried atebion i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth ledled de ddwyrain Cymru. Bydd ffocws argymhellion y dyfodol yn llawer ehangach na’r argymhellion ‘llwybr cyflym’ cychwynnol sy’n ymwneud â’r M4, a bydd yn cynnwys dulliau trafnidiaeth amgen.

    Dywedodd Lord Burns, Cadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru:

    “Rwy'n cydnabod yn llwyr beth yw hyd a lled a phwysigrwydd y dasg hon i wella problemau trafnidiaeth difrifol yn y rhanbarth.

    Ein nod fel Comisiwn yw argymell set o fesurau i wella trafnidiaeth mewn ffordd gynaliadwy a fydd yn cefnogi llesiant ehangach y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn teithio yn ne ddwyrain Cymru.

    Mae’r argymhellion yn yr adroddiad cychwynnol hwn yn fesurau y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym. Rwy’n credu y byddant yn cael effaith gymedrol ond amlwg wrth leddfu tagfeydd ar yr M4.Bydd ein hargymhellion tymor hwy yn cynnwys set lawer ehangach o fesurau, yn ymwneud â bysiau, rheilffyrdd, teithio llesol, gwella ffyrdd, llywodraethu a pholisïau ehangach.”

    I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: 

    ComisiwnTrafnidiaethDDdC@llyw.cymru

    Posted on 31st January 2020

    by Katie Allister